P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Eleri Lewis, ar ôl casglu cyfanswm o 267 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae preswylwyr ‘the Mill’, ystâd newydd yn Nhreganna, Caerdydd yn gorfod talu ffi flynyddol o £102 am gynnal a chadw parc sy'n ffinio ar yr ystâd. Rhaid gwneud y taliad hwn ochr yn ochr â thaliadau cynnal a chadw eraill sy'n talu am y priffyrdd a’r mannau gwyrdd heb eu mabwysiadu ac ati. Rhaid i breswylwyr hefyd dalu'r dreth gyngor lawn sy'n ofynnol. Nid yw preswylwyr yn cael dadansoddiad manwl o gostau’r parc, dim ond hysbysiad i ddweud bod yn rhaid iddynt dalu’r ffi.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ystyriwyd bod ‘the Mill’ yn enghraifft dda o bolisi Llywodraeth Cymru oherwydd ei statws fel ystâd ddeiliadaeth gymysg sy’n cynnwys tai fforddiadwy ochr yn ochr â phrynu rhydd-ddaliadol – felly, o ystyried yr argyfwng costau byw presennol, rydym o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi preswylwyr ar ystadau fel ‘the Mill’ drwy annog a hwyluso awdurdodau lleol i fabwysiadu’r gwaith cynnal a chadw a dileu’r taliadau cosbol hyn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru